Efallai y bydd angen cymorth arnoch chi i gyflawni eich prosiect ac i ddatblygu eich mudiad. Mae gwirfoddolwyr yn debygol o fod yn allweddol i’ch llwyddiant. Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i gyllid, mae’n bosibl y gallwch gyflogi staff a chomisiynu ymgynghorwyr, ond cyn hynny bydd angen grŵp ymroddgar o gefnogwyr arnoch chi, sy’n fodlon rhoi o’u hamser i’ch helpu i gyflawni eich nod. Wrth ichi fwrw iddi gyda’ch ymdrechion, mae’n debygol y bydd angen pobl angerddol he dâl arnoch i rannu’r gwaith o arwain y prosiect i’w gwblhau.
Your Organisation | Developing a strategic plan for your organisation
Gweithio gyda Gwirfoddolwyr
Cyflwyniad
Mae sawl gwahanol reswm dros wirfoddoli, o gwrdd â phobl sy’n rhannu eich diddordebau, i ddatblygu sgiliau a phrofiad a allai helpu eich gyrfa. Gallai rhai gwirfoddolwyr ymrwymo i gynnig cryn amser, yn gyson, ond efallai y bydd llawer ond yn gallu helpu am ychydig o bryd i’w gilydd.
Bydd angen ichi ystyried pa gymorth sydd ei angen arnoch o ran sgiliau, profiad ac amser, a sut y byddwch chi’n rheoli eich gwirfoddolwyr. Beth fyddan nhw’n ei dderbyn fel diolch am eu cymorth? Gallwch greu cyfleoedd cyffrous, cynnig cefnogaeth a meithrin eich pobl.
LINKS
Ffynonellau gwybodaeth am wirfoddoli
Mae’r Gronfa Dreftadaeth yn cynnig canllaw Arfer Da ardderchog sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr yn y sector treftadaeth. sector.
Cyhoeddiadau defnyddiol eraill:
AIM Recriwtio a Hyfforddi Gwirfoddolwyr yn Llwyddiannus
Nod yr ymgyrch ‘Make Your Mark’ yn yr Alban yw hybu amrywiaeth a graddfa gwirfoddoli treftadaeth yn y wlad. Mae ganddyn nhw becyn cymorth sy’n ymwneud â gwirfoddoli hollgynhwysol.
WCVA (Cymru), NCVO (Lloegr), SCVO (Yr Alban), a Volunteer Now (Gogledd Iwerddon) yw cyrff sector sy’n darparu cyngor a chymorth i udiadau gwirfoddol, ac mae eu cyngor a’u harweiniad yn werth chweil.
Sefydlu a chynnal rhaglen wirfoddoli ar gyfer eich mudiad
Bydd angen ichi baratoi eich mudiad i weithio gyda gwirfoddolwyr. Dyma’r paratoadau:
- rhoi polisïau ar waith
- creu systemau ar gyfer eu cofrestru a thalu treuliau.
- gwirio bod eich yswiriant yn ddigonol ac yn ymdrin â gweithio gyda gwirfoddolwyr
- cyflawni asesiadau Iechyd a Diogelwch ar gyfer rolau gwirfoddoli.
Mae yna hefyd agweddau ymarferol y bydd angen ichi eu dwyn i ystyriaeth m gis ble byddan nhw’n mynd ar eu hamseroedd egwyl, pa hyfforddiant gallwch chi eu cynnig, gallu eich mudiad i’w rheoli; pa adnoddau fydd eu hangen arnoch.
Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Ceunant Ironbridge wedi llunio Pecyn Cymorth i Wirfoddolwyr sy’n ddefnyddiol dros ben i’w ddilyn os ydych chi ond yn cychwyn arni. Mae ganddo dempledi a rhestr o’r polisïau y gallai fod eu hangen arnoch i ddatblygu. Mae’n berthnasol i bob math o sefydliadau treftadaeth, nid dim ond i amgueddfeydd.
Mae Know How Non-Profit hefyd yn cynnig awgrymiadau arbennig – sut i sefydlu rhaglen wirfoddoli
Gwelwch ein Pethau i’w Hystyried pan fyddwch yn sefydlu rhaglen wirfoddoli
Recriwtio gwirfoddolwyr
Mae Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y broses recriwtio gwirfoddolwyr.
Gallwch hysbysebu eich cyfleoedd gwirfoddoli drwy eich canolfan wirfoddoli lleol Adnodd Canfod Canolfannau Gwirfoddol a gwefannau eraill:
Os hoffech chi recriwtio’n lleol, ewch a phosteri neu daflenni i siopau coffi, adeiladau ffydd, canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.
LINKS
Recriwtio Gwirfoddolwyr: Awgrymiadau Arbennig
Mae gan Volunteering Buck gyfres o awgrymiadau arbennig gan gynnwys sut i recriwtio gwirfoddolwyr BAME (Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol) ac anabl.
Mae gan Amgueddfeydd Swydd Gaerwrangon Becyn Cymorth i Recriwtio Gwirfoddolwyr sy’n eich helpu i lunio cynllun gweithredu i fynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr.
WEBINAR
Recriwtio Gwirfoddolwyr
Mae Amgueddfeydd Swydd Gaerwrangon wedi llunio’r gweminar hwn i’ch cyfarwyddo am Recriwtio Gwirfoddolwyr ar gyfer Mudiadau Treftadaeth. (yn Saesneg)
Cyfle i glywed gan y tîm yn Coffin Works ynghylch pam mae pobl yn gwirfoddoli gyda nhw a pham bod eu gwirfoddolwyr mor bwysig. (yn Saesneg)
Pa mor amrywiol yw eich tîm gwirfoddol?
Mae pobl o bob oedran a chefndir yn angerddol dros dreftadaeth ond eto i lawer o sefydliadau a phrosiectau treftadaeth mae diffyg amrywiaeth yn y timau gwirfoddoli a’r cyrff llywodraethu. Yn wir mae nifer o fudiadau’n mynd rhagddi i geisio dod o hyd i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr medrus iau sydd hefyd yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau maen nhw’n gweithio gyda nhw, neu o ran lleoliad eu prosiectau adeiladu, yn enwedig yn rhai o ddinasoedd ac ardaloedd trefol y DU.
Yn Ne Lloegr, cynhaliodd y Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol lleol ymgyrch i annog elusennau a grwpiau nid-er- elw i fwrw golwg ar ba mor amrywiol yw eu gwirfoddolwyr. Maen nhw’n darparu proses syml ar gyfer nodi diffygion a thargedau ac maen nhw hefyd wedi llunio taflen.
Maen nhw’n argymell mabwysiadu datganiad amrywiaeth a’i ddefnyddio ar eich gwefan (mae’r datganiad isod gan NCVO):
‘Mae ein mudiad wedi ymrwymo’n gadarn i gynnig amrywiaeth ym mhob maes o’i waith. Rydym yn credu bod gennym lawer i’w ddysgu ac elwa o ddiwylliannau a safbwyntiau amrywiol, ac y bydd amrywiaeth yn sicrhau bod ein mudiad yn fwy effeithiol wrth ddiwallu anghenion ein holl randdeiliaid. Rydym yn ymroi i ddatblygu a chynnal mudiad ble caiff syniadau, galluoedd, cefndiroedd ac anghenion gwahanol eu meithrin a’u gwerthfawrogi, a ble mae’r rheiny sydd â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol yn gallu cymryd rhan a chyfrannu. Byddwn yn gwerthuso ac yn monitro ein cynnydd tuag at amrywiaeth yn rheolaidd.’
Ar hysbysebion recriwtio maen nhw’n argymell defnyddio delweddau cadarnhaol o bobl maen nhw’n awyddus i’w denu a chynnwys geiriad penodol:
‘Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl ledled y gymuned leol, waeth beth fo’u cefndir neu eu profiad.’ ‘Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl anabl yn arbennig.’
Sut i ddatblygu cynllun gwirfoddoli hollgynhwysol, gyda chymorth
Er mwyn recriwtio o grwpiau targed penodol, mae’n rhaid ichi farchnata’r cyfleoedd iddyn nhw mewn mannau ble bydd eich hysbyseb yn amlwg. Gallai hyn olygu: mewn papurau newydd cymunedol, mewn llyfrgelloedd, adeiladau ffydd, siopau coffi, mudiadau cymorth, mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ac mewn digwyddiadau lleol.
Know How Non-Profit – Sut i ddatblygu cynllun gwirfoddoli hollgynhwysol, gyda chymorth
Know How Non-Profit – Astudiaeth achos annog amrywiaeth yn y byd gwirfoddoli
Gwelwch yr adran canllawiau ar brosiectau treftadaeth hollgynhwysol
Gwelwch y canllawiau ar sut i ennyn diddordeb pobl ifanc yn eich prosiect treftadaeth
Gweithio gyda gwirfoddolwyr corfforaethol drwy wirfoddoli gyda chymorth gan gyflogwyr
Mae gwirfoddoli ymhlith gweithwyr yn wirfoddoli sydd wedi’i gefnogi gan gyflogwr, naill ai yn ystod amser gwaith neu y tu hwnt i oriau gwaith. Os oes gennych chi brosiect sylweddol sy’n gofyn am rym pobl a mewnbwn nad yw’n arbenigol, megis peintio wal, pacio gwrthrychau, clirio ardal, gallwch gysylltu gyda chyflogwr sylweddol yn lleol i weld os hoffen nhw gynorthwyo a threfnu tîm. Mae’r pwyslais ar waith tîm. Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Ceunant Ironbridge wedi llunio Pecyn Cymorth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR).
