Skip to main content

Gair i Gall

Gwneud digwyddiadau a gweithrediadau hygyrch i’r gymuned fyddar

Darperir y canllawiau gan Sarah Regan, rheolwr, Canolfan i'r Byddar Hull a Swydd Dwyrain Efrog

Os ydych yn dymuno ennyn diddordeb y gymuned fyddar yn eich prosiect, dyma rai awgrymiadau i’w gwneud yn haws iddyn nhw gymryd rhan ac i chi gyfathrebu â nhw os ydych yn rhoi cyflwyniadau ffurfiol, darparu gwybodaeth ar y we a chyfarfod wyneb yn wyneb.

1. Arfer da wrth roi cyflwyniadau neu sgyrsiau ffurfiol

Trefnwch gael dehonglwr a/neu is-deitlau

Sicrhewch fod gan unrhyw eiriau ar lafar is-deitlau a/neu fod dehonglwr BSL yn bresennol. Mae hynny’n cynnwys siaradwyr gwadd, darlithwyr, fideos ac ati. Y ffordd orau o brofi a ydych wedi meddwl am bopeth yw drwy ddiffodd pob sain a gweld a ydych yn dal i allu cael mynediad i’r digwyddiad. Mae’n rhaid i chi gofio nad yw pob un byddar yn meddu ar iaith arwyddion ac nad yw pawb yn gallu darllen Saesneg yn rhugl, felly y peth gorau fyddai cael cyflenwad o’r ddwy ffurf gyfathrebu fel bod yr unigolyn byddar yn gallu defnyddio’r dull o gyfathrebu sydd fwyaf addas ar ei gyfer a’r sefyllfa y mae ynddi.

Gwirio’r goleuadau

Os yw’r digwyddiad rydych yn ei drefnu’n ddigwyddiad gyda’r nos neu fod ganddo ‘oleuadau awyrgylch’ neu oleuadau gwan, sicrhewch fod goleuadau digonol er mwyn i bobl fyddar allu gweld y dehonglwr, gan sicrhau ei bod i’w gweld yn glir.

Meddyliwch ynglŷn â’r ffordd rydych yn rhoi cyfarwyddiadau

Byddwch yn ymwybodol nad yw rhywun byddar yn gallu edrych unrhyw le arall heblaw ar yr arwyddwr pan fydd yn arwyddo. Mae’n hawdd i bobl eraill, er enghraifft, ddilyn darlith lle mae’r darlithydd yn gofyn i bawb edrych ar dudalennau 3 i 5 wrth barhau i siarad amdanyn nhw, ond ni all rhywun byddar wneud hyn. Nid ydynt yn gallu gwneud nodiadau’n hawdd chwaith, oherwydd pan fyddant yn edrych i ffwrdd i ysgrifennu pethau byddant yn colli gwybodaeth.

Sicrhewch fod copïau wedi’u hargraffu ar gael

Mae bob amser yn ddefnyddiol cael copïau wedi’u hargraffu o’r sgript/darlith i’w dosbarthu ar gyfer pobl fyddar – os ydynt yn defnyddio’r sgrindeitlo byw, byddai cael copi argraffedig yn eu helpu mewn achos lle maen nhw wedi colli rhywbeth.

2. Pethau i’w cynnwys ar wefannau

Ar wefannau, mae’n fanteisiol cael fideos byr o bobl yn arwyddo’r wybodaeth yn ogystal â’r gair ysgrifenedig.

Ychwanegwch gyswllt e-bost i’ch gwefan, yn ogystal â chyswllt ffôn, fel bod pobl fyddar yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros gysylltu â chi’n uniongyrchol a chadw lle yn eich digwyddiadau.

3. Hyrwyddo digwyddiadau

Os oes digwyddiadau penodol lle bydd BSL neu sgrindeitlo byw yn cael eu defnyddio, hysbysebwch y rhain yn amlwg ar frig y rhestriadau, nid mewn print bach ar y gwaelod.

4. Wrth siarad un wrth un â rhywun byddar

  • Mae byddardod yn anabledd cudd ac nid yw bob amser yn ffactor amlwg.
  • Ceisiwch fod yn agored a chyfathrebu’n naturiol.
  • Sicrhewch fod gennych eu sylw a’u bod yn edrych arnoch.
  • Sicrhewch fod sŵn cefndir ar ei leiaf posibl.
  • Edrychwch yn uniongyrchol ar yr unigolyn a pheidiwch â throi eich cefn wrth siarad. Yn ddelfrydol, byddwch rhwng tair a chwe throedfedd i ffwrdd.
  • Sicrhewch fod golau digonol ar eich wyneb, nid y tu ôl i chi – er enghraifft, peidiwch â sefyll o flaen ffenest.
  • Sicrhewch nad yw eich wyneb na’ch ceg yn cael ei chuddio gan ddwylo na barf sy’n cuddio’ch ceg a pheidiwch â chnoi!
  • Defnyddiwch ystumiau a symudiadau’r corff er mwyn helpu i esbonio ble y lleolir rhywbeth neu wrth gyfeirio rhywun.
  • Peidiwch defnyddio jargon.
  • Peidiwch anwybyddu’r unigolyn byddar a siaradwch ag ef/hi yn uniongyrchol.

Peidiwch roi’r gorau iddi – os na chewch eich deall y tro cyntaf, aralleiriwch yr hyn rydych yn ei ddweud, ysgrifennwch ef i lawr, tynnwch lun.

LAWRLWYTHO

Sillafu'r wyddor â bysedd

Pam na chael tro ar sillafu syml â bysedd i’ch helpu i gyfathrebu – yn enwedig eich enw. Bydd yr ymdrech yn cael ei gwerthfawrogi. Mae modd lawrlwytho gwyddorau llaw dde a llaw chwith.

Yr wyddor llaw chwith

Yr wyddor llaw dde

5. Cofiwch am y rhain

AMYNEDD– Cymerwch yr amser i roi’r gorau ar yr hyn rydych yn ei wneud. Mae pob un ohonom yn brysur, ond mae hyn yn gwneud byd o wahaniaeth. Edrychwch ar yr unigolyn byddar a rhowch eich sylw iddo.

YMDRECH– Gwnewch yr ymdrech i gyfathrebu, geirio’n ofalus, defnyddio arwyddion, ysgrifennu pethau i lawr, gwneud mynegiadau wynebol addas. Peidiwch ag ofni trio – mae pobl fyddar wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech.

EMPATHI– Dychmygwch sut deimlad fyddai peidio gwybod beth oedd yn digwydd. Rydym yn cymryd ein clyw a sut mae wedi bod o fudd i ni ac yn parhau i wneud hynny’n ganiataol.

Darparwyd y cyngor hwn gan Sarah Regan

Canolfan i’r Byddar Hull a Dwyrain Swydd Efrog

Mae The Hull & East Yorkshire Centre for the Deaf yn elusen gofrestredig ac wedi darparu amwynderau cymdeithasol a chyfleusterau adloniadol yn Hull ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw ers 1926.

EWCH I'R WEFAN


DISCLAIMER

This toolkit is intended to be used as general guidance only and all advice is given in good faith. Neither Heritage Trust Network nor its specialist contributors can accept any responsibility for any liability arising from its use in any given context. We would recommend that further legal advice is taken before application of the guidance/use of the documents in specific circumstances.