Darllen ymhellach: Sut i ymateb i geisiadau cynllunio, Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig / Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol
Gair i Gall
Ymateb i geisiadau cynllunio
Darperir yr arweiniad gan Tony Burton

1. Sicrhewch fod gennych chi’r manylion
Bydd modd i chi weld y cais cynllunio a’r holl ddogfennau atodol ar wefan eich awdurdod lleol. Mae’n werth darllen trwy’r holl ddogfennau a gwneud nodyn o unrhyw fater neu anghysondeb allweddol. Os oes unrhyw wybodaeth ar goll, holwch y swyddog cynllunio perthnasol yn yr awdurdod lleol amdani a gwiriwch erbyn pryd y bydd rhaid ymateb. Hefyd, cewch edrych ar gyn-geisiadau cynllunio ar gyfer y safle.
2. Darllenwch eich “cynllun datblygu”
Yn ôl y gyfraith, y polisïau yn eich cynllun datblygu yw’r prif ddylanwad ar y penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Mae’r cynllun datblygu’n cynnwys y cynllun lleol (a rennir yn ddogfennau strategol a manylach yn aml) yn ogystal ag unrhyw gynlluniau cymdogaeth (a Chynllun Llundain os ydych ym mhrifddinas y Deyrnas Unedig). Edrychwch drwyddo am bolisïau cynllunio perthnasol sy’n cyfeirio at y materion sy’n bwysig i chi. Gall polisïau cynllunio drafft mewn dogfennau sy’n cael eu hadolygu neu eu paratoi fod yn bwysig hefyd.
3. Ewch i ymweld â’r safle
Ewch â’r cynlluniau ar ymweliad â’r safle hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod yn adnabod yr ardal yn dda. Cerddwch o gwmpas ac edrychwch arno o wahanol onglau a safbwyntiau a chofiwch dynnu lluniau.
4. Gwnewch benderfyniad ac ysgrifennwch hwnnw
Cewch gefnogi neu wrthwynebu cais neu mae’n bosibl y byddech yn ei ystyried yn dderbyniol dan amodau. Unwaith i chi benderfynu, rhaid cyflwyno safbwyntiau ysgrifenedig o fewn y cyfnod ymateb a roddir.
5. Glynwch wrth y materion cynllunio
Caiff eich barn yr effaith fwyaf os bydd yn dangos gwybodaeth leol ac yn cyfeirio at bolisïau cynlluniau datblygu perthnasol. Caiff penderfyniadau cynllunio eu gwneud “er budd y cyhoedd” ac mae angen mynegi eich barn yn yr un modd – nid yw materion fel effaith ar brisiau tai neu amgylchiadau personol yn berthnasol.
6. Targedwch y sawl sy’n gwneud y penderfyniad
Swyddogion awdurdod lleol sy’n penderfynu ar fwyafrif y ceisiadau cynllunio a chynghorwyr etholedig ar bwyllgor cynllunio sy’n penderfynu ar gynlluniau mwy a/neu gynlluniau mwy dadleuol. Weithiau, gall eich cynghorydd ward ofyn i gais fynd at y pwyllgor ond peidiwch ag ofni ysgrifennu at aelodau’r pwyllgor a siarad mewn cyfarfod ohono.
7. Adolygu dyluniadau
Mae gan lawer o awdurdodau lleol banel adolygu dyluniadau, felly anogwch eich un chi i edrych ar y datblygiad a sicrhewch fod ei aelodau’n gwybod eich barn amdano.
8. Siaradwch
Sicrhewch fod pobl eraill yn gwybod am eich pryderon ac anogwch nhw i gyfrannu. Gall taflenni trwy’r post, ysgrifennu llythyrau at y papur lleol, postio ar y cyfryngau cymdeithasol a sbloetiau cyhoeddusrwydd fod o gymorth.
9. Cadwch lygad barcud
Pan gewch ganiatâd, cadwch lygad ar yr hyn sy’n datblygu a gofynnwch i’ch awdurdod cynllunio lleol gymryd camau gorfodi os na fydd yn cyfateb i’r caniatâd – cadwch gofnodion a thynnwch luniau i’w defnyddio fel tystiolaeth.
10. Peidiwch â cholli’r un nesaf
Tanysgrifiwch i restr wythnosol eich awdurdod cynllunio lleol o geisiadau cynllunio a chadwch lygad allan ar yr hysbysiadau swyddogol yn eich papur lleol.
