7. Cynlluniwch gyda’ch gilydd fel sefydliad
Yn olaf, mae’n bwysig fod eich corff llywodraethu yn neilltuo amser i feddwl am y dyfodol a’ch gallu i gyflawni. Gallai cynllun gweithgaredd sydd â thargedau rhifol mawr fod yn ddeniadol i gyllidwyr a bydd yn helpu i sicrhau cyllid i’ch prosiect, ond bydd angen ei gyflawni hefyd unwaith y daw’r cyllid. Ydy’r targedau’n ymddangos yn rhesymol, yn gyraeddadwy ac yn rheoladwy ar sail eich gwybodaeth am y maes, y prosiect a gallu eich sefydliad?
Os byddwch chi’n cynnal atyniad i ymwelwyr ar ôl cwblhau, a fydd gennych ddigon o adnoddau i gyrraedd targedau ymgysylltu eich cynllun gweithgaredd YN OGYSTAL Â gweithredu’r atyniad bob dydd i gyrraedd targedau creu incwm? Neilltuwch amser i weithio gyda’ch ymgynghorwyr ac ystyriwch yr holl wahanol sefyllfaoedd ar lefel y bwrdd, gan gynnwys sut olwg fydd cynllunio ar gyfer olyniaeth o fewn eich prosiect.
Mae’n debygol y byddwch yn penodi staff ychwanegol i gyflawni’r cynllun gweithgaredd unwaith i’r cyllid gael ei gadarnhau, ond a fydd modd i’ch corff llywodraethu neu staff craidd ei oruchwylio, cynnal gwaith monitro yn erbyn targedau, ysgrifennu adroddiadau a thynnu hawliadau am grantiau i lawr?
Bydd llawer i’w wneud i sicrhau bod eich cynllun gweithgaredd nid yn unig yn cael ei gyflawni, ond yn cael ei gyflawni’n dda. Mae’n ddefnyddiol gweithio yn ôl ac ystyried adroddiad gwerthuso terfynol y prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri, hyd yn oed ar y cam cynllunio hwn! Er enghraifft, pwy yn eich sefydliad fydd yn gwirio bod tystiolaeth am yr effaith (y bydd ei hangen arnoch ar gyfer eich adroddiad gwerthuso allanol ac i sicrhau 10% olaf eich taliad grant) yn cael ei chasglu’n gyson ac yn rheolaidd gan eich tîm cyflawni trwy gydol y broses? Mae’n werth cael trafodaeth amdano. Bydd cyflawni rhaglen o weithgareddau treftadaeth yn brofiad gwerth chweil a braf i’ch sefydliad ac i’ch cyfranogwyr, ond bydd angen i rywun gadw llygad ar bopeth drwy’r amser.
Defnyddiwch eich proses o ddatblygu’r cynllun gweithgaredd i sicrhau’r canlyniad gorau i’ch prosiect ac i’r bobl rydych yn ymgysylltu â nhw, a’r un mor bwysig, y canlyniad gorau i’ch sefydliad.