Skip to main content

Gair i Gall

Sut i annog ysgolion i ymgysylltu â’ch prosiect

Darperir y cyngor hwn gan Sue Pope, ymgynghorydd dysgu am dreftadaeth

Gair i Gall 1:

Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to – nid yw’n hawdd! Pe bawn i’n cael £1 am bob tro gofynnodd rhywun i mi “beth yw’r ffordd orau o gysylltu ag / gweithio gydag ysgolion?” – byddwn i’n graig o arian!

Gair i Gall 2:

Defnyddiwch bob ffurf o farchnata sydd ar gael i chi – peidiwch â dibynnu ar un peth yn unig.

Gair i Gall 3:

Ceisiwch beidio ag atodi dogfennau PDF i e-byst cychwynnol i athrawon gan na fyddant o bosib yn mynd trwy eu gosodiadau diogelwch/sbam.

Gair i Gall 4:

I mi, nid yw gwefannau na hysbysebu mewn cylchgronau’n gymorth mawr, felly peidiwch â gwario ar hynny. Mae pentyrrau o gylchgronau ar fyrddau coffi ystafelloedd athrawon sy’n ymddangos fel petai neb wedi eu cyffwrdd.

Gair i Gall 5:

Ffoniwch ysgolion lle cewch hyd i athro penodol yn gyswllt i chi. Mae’n bosibl y bydd gweinyddwyr a/neu ysgrifenyddion yn borthgeidwaid ac na fyddant yn trosglwyddo gwybodaeth.

Gair i Gall 6:

Os byddwch yn defnyddio e-bost, ceisiwch gynnwys enw’r athro (At sylw:…) yn llinell y neges fel ei bod yn cyrraedd yr unigolyn cywir.

Gair i Gall 7:

Wrth weithio gydag athro penodol, cynigiwch gymorth iddo gyda gwaith cynllunio, cysylltwch ef â phobl a safleoedd sydd ag adnoddau rhad ac am ddim – codwch ei ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael yn hawdd ym myd treftadaeth.

Gair i Gall 8:

Os oes gennych gydweithwyr neu ffrindiau sydd â phlant mewn ysgolion lleol, ewch drwy’r llwybr hwnnw – mae’n well cysylltu â phobl gyfarwydd…

Gair i Gall 9:

Cynigiwch gyfleoedd peilot am ddim os oes modd – cynigiwch o leiaf gynulliad am ddim i’r ysgol gyfan ar destun sy’n gysylltiedig â’r prosiect ond sy’n berthnasol i faes penodol o astudiaeth.

Gair i Gall 10:

Os byddwch yn gweithio gydag ysgolion uwchradd, cynigiwch gymorth ar gyfer eu digwyddiadau trosglwyddo rhwng Blwyddyn 6 a 7 a gofynnwch i gael cysylltu â’u hysgolion cynradd bwydo. Maent yn hoff o ganfod ffyrdd o gydweithio.

Gair i Gall 11:

Gofynnwch i gael siarad mewn cyfarfodydd clwstwr lleol, digwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus, cynadleddau a chyfarfodydd y staff.

Gair i Gall 12:

Cynigiwch eich lleoliad i ysgolion gynnal eu diwrnodau cwrdd i ffwrdd / cyfarfodydd staff.

Gair i Gall 13:

Pwysleisiwch y natur drawsgwricwlaidd a’r cyfleoedd sydd ar gael yn eich adeilad hanesyddol / dysgu am dreftadaeth, gan gynnwys sut mae modd defnyddio casgliadau ac adeiladau hanesyddol i ddysgu pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celf a mathemateg)!

Daliwch ati i ddarllen er mwyn cael hyd yn oed mwy o gyngor ar sut i osgoi’r porthgeidwaid mewn ysgolion!

Darparwyd y cyngor hwn gan

Sue Pope O A Merrie Noyse

Mae gan Sue 20 a mwy o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn amgueddfeydd a dysgu am dreftadaeth.Mae’n arbenigo ar weithio gydag ysgolion, athrawon a dysgwyr o bob oedran wrth ddatblygu gweithgareddau ac adnoddau dysgu ystyrlon a defnyddiol.

CYSYLLTU Â SUE

Rhagor o gyngor: Sut i fynd heibio ‘porthgeidwaid’ ysgolion

Cynigir y cyngor hwn gan aelodau rhestr GEM (arbenigwyr ar ddysgu am dreftadaeth) ac fe’i datblygwyd gan Andy Whincup

Peidiwch â galw heb wahoddiad

Neu o leiaf peidiwch â galw heb wahoddiad a disgwyl cael ymateb. Does neb yn hoffi cael eu tarfu arnynt yn y gwaith neu pan fyddant yn brysur.

Os byddwch yn galw, ffoniwch ar adeg pan fyddant yn llai tebygol o fod yn addysgu.

A dywedwch, “Tybed a oes modd i chi helpu” a gofynnwch am yr “unigolyn gorau yn yr adran i gysylltu ag ef/hi am y cyfle”.

Mynnwch enwau / manylion cyswllt athrawon unigol

Cewch y rhain os byddwch yn galw heb wahoddiad ond mae’n debygol mai dyna’r cyfan a gewch. Maent yn ddefnyddiol er mwyn cysylltu â nhw’n ddiweddarach.

Neu cyfeiriwch at y pennaeth

A gwnewch y cynnig yn uniongyrchol iddo.

Mae amseru’n hollbwysig

Mae’r haf a mis Medi’n wastraff amser. Bydd mwy o ddiddordeb ganddynt pan fyddant yn dychwelyd.

Mae e-bost sydd wedi’i ysgrifennu’n dda at yr athro mwyaf addas (neu at sylw [y rôl fwyaf addas]) yn well na galwad

Nodwch ei enw, neu o leiaf bennaeth adran, a bydd yn mynd yn awtomatig at yr unigolyn cywir. Cewch chi well cyfle o lwyddo.

Hefyd, mae’n golygu bod modd ymateb pan fydd ganddo amser.

AM DDIM!

Os bydd yn rhad ac am ddim, rhowch hynny mewn llythrennau mawr yn eich e-bost.

Cadwch lygad allan amdanynt ar y rhyngrwyd

Ceisiwch weld a oes ganddynt flog, cyfrif Facebook neu gyfrif Twitter a chysylltwch â nhw ar y rheiny. Bydd cael ymateb yn fwy tebygol o greu argraff arnynt.

Hefyd, ewch i’w gwefan i weld a ydynt wedi cynnal prosiectau tebyg yn ddiweddar.

Dewch o hyd i sefydliad a fydd yn rhoi cymorth i chi

Mae gwasanaeth cynghori’r sir, tîm gwella’r ysgol neu, yn yr Alban, SATH (www.sath.org.uk) yn gysylltyddion da. Mae enw da ganddynt ac maent yn fwy tebygol o fynd trwy’r drws.

Mae gan rai cynghorau restrau dosbarthu sy’n mynd heibio waliau tân. Cysylltwch â nhw.

Ysgrifennwch lythyr atynt

Ysgrifennwch lythyr at y pennaeth mewn amlen wedi’i hysgrifennu â llaw. Rhywbeth anghyfarwydd yw hyn erbyn heddiw a bydd yn fwy tebygol o dynnu ei sylw.

Dewch i adnabod y derbynnydd/derbynyddion

Os gallwch neilltuo arian ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd i’ch derbynyddion lleol, bydd hyn yn eich talu yn ôl yn yr hirdymor.Roeddem yn arfer trefnu diwrnod cwrdd i ffwrdd ar gyfer gweinyddwyr yn y swyddfa ac yn ôl pob golwg roeddent yn gwerthfawrogi’r cyfle. Cawsom dystiolaeth anecdotaidd hefyd ei bod yn llawer haws siarad ag ysgolion ar ôl cael y diwrnod hwn.

DISCLAIMER

This toolkit is intended to be used as general guidance only and all advice is given in good faith. Neither Heritage Trust Network nor its specialist contributors can accept any responsibility for any liability arising from its use in any given context. We would recommend that further legal advice is taken before application of the guidance/use of the documents in specific circumstances.