Skip to main content

Gair i gall a chyngor ar yswiriant

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a gwarchod eich enw da

Darperir yr arweiniad gan Hayes Parsons

1. Sicrhewch eich bod yn adnabod eich cynulleidfa

Pan fyddwch yn dechrau dod i arfer â’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosibl y byddwch yn meddwl bod angen presenoldeb ar gymaint o blatfformau â phosibl. Y gwir yw y bydd hyn yn eich gadael â nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol nad oes modd eu rheoli a byddwch yn gwastraffu’ch amser yn cyfathrebu â phobl nad ydynt yn rhan o’ch cynulleidfa darged.

Mae pob platfform yn denu cynulleidfa wahanol felly gwnewch eich gwaith ymchwil ymlaen llaw a phenderfynwch ar bwy rydych am gyfathrebu â nhw. Mae llawer o ddata ar ddemograffeg cyfryngau cymdeithasol ar gael ar-lein ond mae’r erthyglau hyn o  Hub Spot a Sprout Social yn ddechrau da.

2. Fideo yw’r brenin!

Tan yn ddiweddar, cynnwys oedd y brenin ond nawr mae fideo wedi cymryd yr orsedd. Mae ystadegau YouTube ddiwedd 2015 yn honni y cafodd 400 a mwy o oriau o fideo eu huwchlwytho i’r safle bob munud, ac mae’n debygol fod y ffigur hwn wedi cynyddu hyd yn oed mwy ers hynny Gweler yr ystadegau.

Nawr, mae defnyddwyr yn disgwyl cael eu cynnwys yn gyflymach ac yn haws nag erioed ac, yn ddiweddar, cyflwynodd Facebook fideos sy’n chwarae’n awtomatig, sy’n golygu nad oes rhaid i chi hyd yn oed bwyso’r botwm chwarae wrth i chi bori trwy’r dudalen hafan.

Mae apêl fideos yn mynd i dyfu ac mae fideos ar eich pyst ar y cyfryngau cymdeithasol yn debygol o ddenu mwy o bobl i’w gweld a mwy o ymgysylltu. Ond cadwch y fideos yn fyr ac yn gryno. Ni fydd neb yn gwylio fideo manwl pum munud o hyd ynglŷn â’ch elusen, ond byddant yn gwylio cyflwyniad, crynodeb neu gymeradwyaeth sy’n 30 eiliad o hyd.

3. Peidiwch ag anghofio am ddelweddau

Er mai fideo yw’r brenin, mae ei gynnwys ymhob post yn afrealistig. Nid felly yw cynnwys delweddau, a bydd pyst sy’n cynnwys delweddau â chyfradd drosi fwy bob tro. Nid yw Twitter yn cyfrif lluniau yn ei gyfrif geiriau mwyach, sy’n golygu bod postio’n haws fyth, ac mae gan fwyafrif y platfformau eu hoffer golygu a’u hidlwyr eu hunain.

Ond cofiwch am broblemau ynghylch hawlfreintiau; bydd “benthyca” delweddau gan Google dim ond yn mynd â chi i drafferth!

Naill ai tynnwch eich lluniau eich hun gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lawrlwythwch ddelweddau stoc o gronfa luniau. Mae Shutterstock ac iStock yn cynnig pecynnau rhesymol. Yn olaf, cofiwch y bydd mwyafrif y delweddau a’r fideos hyn yn cael eu gweld ar ddyfeisiau symudol, felly sicrhewch fod eu meintiau’n ddigon addas. Gallai’r “dudalen gyngor” hon ynghylch delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol ar wefan Make a Website Hub fod o ddefnydd.

4. Defnyddiwch ddangosfwrdd cyfryngau cymdeithasol

Hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio ond un neu ddau blatfform yn y cyfryngau cymdeithasol, yn fuan byddwch yn treulio llawer o amser yn postio ar-lein, yn enwedig o ystyried bod y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gorau’n postio sawl gwaith y dydd, bob dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn. I helpu i reoli eich pyst, dylech ddefnyddio dangosfwrdd fel Hootsuite neu Tweetdeck. Mae dangosfwrdd yn caniatáu i chi amserlennu pyst ymlaen llaw ar sawl gwahanol blatfform yn ogystal â monitro’ch gweithgareddau, felly dim ond un cyfrif y bydd angen i chi fewngofnodi iddo.

Gall dangosfwrdd hefyd fod o gymorth pan fydd sawl aelod o’r tîm yn cyfrannu at eich gweithgareddau cymdeithasol gan fod modd amserlennu pyst heb eu postio nes y bydd rhywun arall yn eu cymeradwyo. Gall hyn helpu i leihau gwallau neu sicrhau na chaiff pyst anaddas eu hanfon. Mae nifer fawr o ddangosfyrddau ar gael nawr, rhai ohonynt yn rhad ac am ddim a rhaid am gost, felly gwnewch ymchwil i ddod o hyd i’r un addas i’ch dewis platfform.

5. Rheoli niwed

Unwaith i chi gamu i mewn i fyd y cyfryngau cymdeithasol, byddwch chi a’ch elusen yn agored i sylwadau gan y cyhoedd. Gan amlaf, sylwadau cadarnhaol fydd y rhain ond, wrth i chi ddechrau gwneud mwy ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd angen i chi baratoi am sylwadau neu adborth negatif. Nid yw anwybyddu sylw negatif yn opsiwn. Mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gan eu bod yn disgwyl ymateb a hwnnw’n gyflym. Gall sylw sy’n ymddangos yn ddibwys fynd allan o reolaeth yn gyflym os na fyddwch yn delio ag ef yn syth.

Mae modd datrys y rhan fwyaf o broblemau gyda neges uniongyrchol, e-bost neu alwad ffôn, ond rhaid geirio’r rhain yn gywir a rhaid i’r neges fod gan yr unigolyn cywir. Yn aml, y camgymeriadau mwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol yw pan fydd aelod cyffredinol o’r staff yn ymateb i neges heb sylweddoli’r effeithiau ac, o bosib, yn difetha enw da’r sefydliad o fewn munudau. Dylid trafod eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol a’ch cynllun rheoli niwed ar lefel rheolwyr a’u hadrodd i’r holl staff fel bod pawb yn ymwybodol ohonynt ac yn deall sut i ddelio â sylwadau negyddol.

Darparwyd y nodyn canllaw hwn gan

Hayes Parsons

Brocer yswiriant annibynnol yw Hayes Parsons Insurance sy’n darparu yswiriant arbenigol a datrysiadau ynghylch rheoli risg.Maent yn darparu yswiriant ar gyfer nifer o adeiladau hanesyddol a safleoedd treftadaeth ac mae ganddynt dîm hawliadau mewnol.

Maent yn cynnig gwasanaeth i aelodau’r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth, sy’n cynnwys rhannu eu detholiad eang o daflenni canllaw.

MYND I'R WEFANCYSYLLTUGWASANAETHAU I AELODAU

DISCLAIMER

This toolkit is intended to be used as general guidance only and all advice is given in good faith. Neither Heritage Trust Network nor its specialist contributors can accept any responsibility for any liability arising from its use in any given context. We would recommend that further legal advice is taken before application of the guidance/use of the documents in specific circumstances.