Ewch ati i sefydlu prosesau rheoli ariannol cadarn ac effeithlon yn eich mudiad, ar gyfer eich prosiectau ac ar gyfer eich costau cynnal sefydliadol.
Your Organisation | Developing a strategic plan for your organisation
Rheolaeth Ariannol
Canllaw gweithdrefnau ariannol
Mae prosesau rheoli ariannol cadarn yn ymwneud â ‘cynllunio, trefnu, rheoli a monitro adnoddau ariannol i gyflawni amcanion sefydliadol’.
Fel rhan o waith cynllunio busnes strategol eich busnes, ewch ati i lunio canllaw gweithdrefnau ariannol. Bydd hyn yn eich cynorthwyo i fod yn effeithlon ac yn effeithiol, bydd yn sicrhau monitro ac yn helpu gyda thryloywder, a bydd yn gymorth i ofalu bod eich mudiad yn gynaliadwy yn ariannol yn yr hirdymor.
Mae canllawiau i’ch helpu i ddatblygu eich gweithdrefnau rheoli ariannol ar gael yng Nghronfa Wybodaeth Know How Non-profit NCVO ac mae gwefan SCVO yn cynnig cyngor eglur i fudiadau nid-er-elw ar reoli ariannol.
Mae gan Gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Gwirfoddol lawer o adnoddau ar eu gwefan ynghylch gweithio tuag at gynaliadwyedd ariannol; gan gynnig syniadau ymarferol a chymorth ichi ynghylch sut i fynd rhagddi ac adolygu eich cynnydd.
Mae’r Bartneriaeth Wise Owl wedi datblygu Cyfrifiannell Cronfeydd Wrth Gefn ar gyfer elusennau. Bydd y Cyfrifiannell Cronfeydd Wrth Gefn yn eich cynorthwyo gyda’r camau angenrheidiol i sefydlu polisi cronfeydd wrth gefn gan ddefnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar risg. Mae’n dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau yng nghanllawiau Comisiwn yr Elusennau ac yn eich helpu i gyfrifo’r swm neu’r ystod o gronfeydd wrth gefn sydd eu hangen ar gyfer eich elusen.
