7. Cydnabod a gwobrwyo gwirfoddolwyr
Meddyliwch ynglŷn ag a ydych chi eisiau strwythur i gydnabod (ac, yn ei hanfod, gwobrwyo) eich gwirfoddolwyr am eu cyfraniad i’ch sefydliad a phrosiectau.
Mae gwirfoddolwyr yn gweithio heb dâl, ond maent hefyd yn ei wneud am eu rhesymau eu hunain: i roi hwb i’w CV, cwrdd â phobl a ffrindiau newydd, rhoi amser i rywbeth maent yn teimlo’n angerddol amdano. Mae cydnabod y cyfraniadau y mae pobl yn eu gwneud a diolch iddyn nhw yn rhywbeth sy’n bwysig i sefydliadau ei wneud yn rheolaidd – a pheidiwch ag anghofio, mae hyn yn cynnwys diolch eich ymddiriedolwyr hefyd!
Ni fydd pobl yn aros mewn rhywle lle nad ydynt yn teimlo croeso na’u bod yn cael eu gwerthfawrogi; gall cyflwyno ffyrdd o gyfleu gwerthfawrogiad eich sefydliad helpu i gadw gwirfoddolwyr hefyd, wrth greu amgylchedd cadarnhaol a hapus.
Mae rhai sefydliadau’n cyflwyno cynlluniau cymhelliant ar gyfer gwirfoddoli. Er enghraifft, mae’r prosiect Stirchley Baths, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn Birmingham, yn gwobrwyo bathodynnau nofio am 50 a 100 awr, bag nofio pan mae gwirfoddolwyr yn cyrraedd 200 awr, a thywel am 400 awr. Mae gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Birmingham yn cael bathodynnau metel, o efydd (100 awr), arian (200 awr), aur (400 awr) a phlatinwm (800 awr), fel ffordd o ddiolch i wirfoddolwyr.
Rhai awgrymiadau ychwanegol gan Knowhow Nonprofit ar sut i ddweud diolch i wirfoddolwyr.
Ffyrdd o ddangos eich bod yn gwerthfawrogi’ch gwirfoddolwyr:
- Dweud diolch! Ar ôl digwyddiad, mae’n beth da anfon e-bost, yn ogystal â dweud diolch ar lafar ar y diwrnod
- Cysylltu â nhw os nad ydych wedi eu gweld ers tro drwy alwad ffôn gyflym neu e-bost
- Sicrhau bod gennych gyflenwad o de, coffi a bisgedi ar gael. Os oes unrhyw rai o’ch gwirfoddolwyr yn bwyta bwyd sy’n rhydd o glwten neu ag anoddefiad i lactos, gallech gynnig rhywbeth arall iddynt
- Cardiau pen-blwydd a Nadolig
- Sôn amdanynt yng nghylchlythyr y sefydliad
- Dod o hyd i amser i enwebu eich gwirfoddolwyr am wobrau gwirfoddoli rhanbarthol neu genedlaethol
- Digwyddiadau cymdeithasol i wirfoddolwyr – teithiau i leoedd treftadaeth eraill o bosibl – ac mae cwisiau tafarn bob amser yn llwyddiant!
- Parti Nadolig / barbeciw yn yr haf
- Lluniau a diolchiadau ar y cyfryngau cymdeithasol – sicrhewch eich bod yn sôn am bawb ar ryw adeg os oes modd.