Skip to main content

Gair i Gall

Sut i greu strategaeth gyfathrebu

Darperir yr arweiniad gan Harriet Roberts

Cyfathrebu a phroffil

Mae cyfathrebu’n allweddol i sicrhau bod eich prosiect adeilad treftadaeth yn llwyddo. Bydd angen cymorth cymunedol, pobl i ymgysylltu â’ch cynlluniau, cyllidwyr i roi arian i chi a gwirfoddolwyr i sicrhau bod popeth yn mynd yn ei flaen. Bydd proffil yn hollbwysig i gyflawni eich amcanion.

Mae Harriet Roberts, sy’n swyddog cyhoeddusrwydd creadigol ar ei liwt ei hun, yn arbenigo mewn cysylltu pobl â llefydd. Dyma hi’n cynnig ei phum prif awgrym ar greu strategaeth gyfathrebu ar gyfer eich prosiect.

1. Recriwtiwch wirfoddolwr neu gofynnwch am gymorth gan weithiwr proffesiynol!

Dwi wedi clywed hyn sawl tro, ‘Dim ond gwirfoddolwyr ydyn ni – does dim amser gennym i anfon datganiadau i’r wasg neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.’  Os felly, mae’n werth i chi roi’r ffidil yn y to ac anghofio am bopeth arall, gan fod cyfathrebu yn hanfodol bwysig wrth gyflawni pethau, ymgyrchu, codi arian a recriwtio gwirfoddolwyr. Os nad oes modd i aelod o’ch tîm wneud hynny, chwiliwch y tu hwnt i’r grŵp am y sgiliau hynny. Does dim angen i’r sawl sy’n eich helpu ddod o gefndir adfer adeiladau – y cyfan sydd ei angen yw sgiliau ysgrifennu da, y gallu i greu rhestr y wasg ac ychydig o wybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol.

2. Brandio, is-benawdau a pharagraffau parod

Mae logo proffesiynol ar gyfer eich sefydliad yn bwysig iawn ond does dim rhaid iddo fod yn gymhleth nac yn ddrud. Bydd angen is-bennawd pum gair sy’n esbonio’r hyn rydych chi’n ei wneud – sy’n ddefnyddiol ar gyfer pob math o bethau – o esbonio eich gweledigaeth i roddwyr posib, i’ch proffil ar Twitter.

Datblygwch hwn i greu paragraff parod i’w ddefnyddio fel darn cyffredinol o destun yn eich datganiadau i’r wasg a’ch deunyddiau marchnata sy’n esbonio’ch prosiect a’ch gweledigaeth yn gryno.

3. Amcanion a strategaethau

Cysylltwch eich cynllun cyfathrebu ag amcanion eich cynllun busnes a chrëwch amserlen o’r hyn rydych yn mynd i’w ddweud, wrth bwy mae angen ei ddweud, sut ydych chi’n mynd i gyfleu’r neges honno, pryd a ble.

Beth ydych chi’n bwriadu ei gyflawni yn ystod y 12 mis nesaf a sut ydych chi’n mynd i ddefnyddio datganiadau i’r wasg, eich gwefan, y cyfryngau cymdeithasol ac ati i’ch helpu i gyflawni’r pethau hynny?

Er enghraifft, rydym yn bwriadu adfywio ein bwrdd gydag arbenigedd ar gyfrifeg a’r gyfraith erbyn mis Awst. Mehefin/Gorffennaf, anfon datganiadau i’r wasg at gyhoeddiad/gwefan y rhwydwaith busnes lleol, postio stori ar ein gwefan, creu dolen i’r stori honno ar y cyfryngau cymdeithasol.

4. Lluniau, lluniau, lluniau!

Cadwch luniau o’ch prosiect a’r bobl a gyfranogodd ar bob cam y datblygiad, pa bynnag mor ddibwys ydynt. Nid oes angen camera proffesiynol – defnyddiwch eich ffôn. Sicrhewch eu bod nhw wedi’u fframio mor broffesiynol â phosib a’u bod yn addas i’w cyhoeddi. Tynnwch fwy na dim ond adeiladau a chefn pennau pobl mewn cyfarfodydd, ar deithiau neu’n gwneud gwaith caled ar y maes. Anogwch bobl i edrych ar y camera, symudwch nhw i mewn i safle da, a thynnwch y llun wrth ystyried y wasg. Agorwch gyfrif Flickr i’w storio a’u labelu mewn albymau. Mynnwch ganiatâd ar y pryd fel na fydd rhaid i chi ofyn i bobl amdano’n ddiweddarach.

5. Nid ôl-ystyriaeth yw cyfathrebu!

Cynlluniwch eich digwyddiadau a’ch llwyddiannau pwysig wrth ystyried y wasg. Oes dathliad arwyddocaol neu gam cwblhau ar y gweill – sut gallwch chi ddefnyddio hyn i adfywio’ch negeseuon a chyhoeddi datganiad newydd i’r wasg i gadw’ch prosiect yn sylw’r cyfryngau? Allwch chi fanteisio ar gynnig cyhoeddusrwydd da am ddim i ddenu noddwr neu roddwr newydd?

Darparwyd y cyngor hwn gan

Harriet Roberts

Rheolwr y cyfryngau ar gyfer diwrnodau agored treftadaeth yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Harriet Roberts ac mae’n arbenigo mewn cysylltu pobl â llefydd. Datblygodd Ŵyl Dreftadaeth Blackburn yn ei rôl fel ymgynghorydd cyfathrebu ar gyfer Rhanbarth Gwella Busnes Blackburn ac arweiniodd gais partneriaeth y dref i fuddugoliaeth yng ngwobrau The Great British High Street. Mae hi wedi gweithio i’r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol ac mae hi hefyd yn ymddiriedolwr i Re:Source, sef prosiect gwerth £10 miliwn i adfywio ac adfer adeilad y Cotton Exchange yn Blackburn.

MYND I'R WEFAN

DISCLAIMER

This toolkit is intended to be used as general guidance only and all advice is given in good faith. Neither Heritage Trust Network nor its specialist contributors can accept any responsibility for any liability arising from its use in any given context. We would recommend that further legal advice is taken before application of the guidance/use of the documents in specific circumstances.