Mae Comisiwn yr Elusennau’n diffinio risg fel ‘ansicrwydd ynghylch digwyddiadau a’u deilliannau a allai gael effaith sylweddol, gan wella neu gyfyngu ar berfformiad gweithredol, cyflawni nodau ac amcanion neu fodloni disgwyliadau rhanddeiliaid’. Mae rheoli risg yn ymwneud â phroses, strategaethau a strwythurau i adnabod a lliniaru bygythiadau arfaethedig neu wirioneddol a fyddai’n atal eich sefydliad rhag cyflawni eich amcanion strategol.
Rheoli Risg Sefydliadol
Categorïau Risg
Mae Comisiwn yr Elusennau wedi llunio canllawiau sy’n bwrw golwg ar y risgiau y mae sefydliadau’n eu hwynebu yn gysylltiedig â gwahanol gategorïau risg:
- Llywodraethu (strwythur amhriodol, diffyg sgiliau ymhlith ymddiriedo wyr, gwrthdaro buddiannau)
- Gweithredol (diffyg lles neu ddiogelwch o ran y buddiolwyr, prosesau prisio cytundebau, recriwtio a hyfforddi staff gwael, amheuaeth am ddiogelwch asedau)
- Ariannol (gwybodaeth ariannol anghywir a/neu annigonol, arian wrth gefn, llif arian, polisïau rheoli ac yswiriant annigonol, dibyniaeth ar ffynonellau cyllid cyfyngedig)
- Risgiau allanol (Enw a chanfyddiad cyhoeddus gwael, newidiadau demograffig, amgylchedd economaidd neu wleidyddol cythryblus, polisi llywodraeth newidiol)
- Cydymffurfio gyda’r gyfraith a rheoleiddio (Gweithredu yn groes i ymddiriedaeth, gwybodaeth wael am gyfrifoldebau cyfreithiol fel cyflogwr, gwybodaeth wael o ofynion rheoleiddio gweithgareddau penodol)
DOWNLOAD
Templedi Am Ddim
Gallwch ddefnyddio’r enghraifft hon o’r Gofrestr Risg Sefydliadol er cyfeirnod neu fel templed: Cofrestr risg enghreifftiol (yn Saesneg)
Mae Sefydliad Banc Lloyds hefyd wedi creu: Templedi Rheoli Risg gallwch eu Golygu (yn Saesneg)
LINKS
Canllawiau Pellach
Adeiladau mewn risg = pobl mewn risg?
Yn aml iawn mae prosiectau treftadaeth adeiledig yn ymwneud â gweithio ar adeiladau sydd ddim yn strwythurol gadarn, sydd â thu mewn bregus, gyda phla o golomennod a chnofilod, sy’n anniogel ac sydd o bosib heb eu hymchwilio. Mae dyletswydd gofal ar aelodau eich corff llywodraethu, swyddogion, ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol i sicrhau caiff risgiau iechyd a diogelwch sydd wedi’u hasesu eu rheoli a’u lleihau.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fudiadau sydd â mwy na pum gweithiwr feddu ar ddatganiad polisi iechyd a diogelwch. Er hynny, byddai synnwyr cyffredin ac arfer da yn gofyn ichi gyflawni asesiad risg syml, hyd yn oed os oes gennych chi lai na pum gweithiwr neu os ydych chi’n gwbl wirfoddol.
Cymrwch olwg ar becyn cymorth ar-lein yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ganllawiau a chyngor manwl ar bob agwedd ar reoli risg. (yn Saesneg)
Mae pecyn cymorth Asesu Risg gyda thiwtorialau fideo ar gael ar wefan NCVO. (yn Saesneg)
Gweithio’n Unigol
Er mwyn adnabod prosiectau, efallai bydd angen i aelodau eich mudiad ymweld ag adeiladau mewn lleoliadau pellennig a chwrdd â phobl ddiarth ar y safle. Cofiwch roi gwybod i rywun ble rydych chi’n mynd bob amser, pwy rydych chi’n cwrdd a pha mor hir rydych yn disgwyl i’r cyfarfod bara, a rhannwch fanylion cyswllt hefyd. Rhowch wybod i’ch cyswllt pan fydd y cyfarfod wedi dod i ben.
Gofalwch fod gennych chi ganiatâd i ymweld â’r safle a sicrhewch nad yw’r person rydych yn disgwyl eu cwrdd yn dweud celwydd am bwy ydyn nhw. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnig canllawiau ar Reoli Iechyd a Diogelwch. (yn Saesneg)
Ymweld ag a mynd mewn i adeiladau
Peidiwch â chaniatáu i wirfoddolwyr neu bobl heb awdurdod fynd i mewn i’ch safle neu’ch adeilad oni bai eich bod chi wedi asesu’r risgiau ac wedi rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith. Ni ddylid mynd mewn i ardaloedd o adeilad neu safle sydd wedi’u hasesu’n anniogel.
Defnyddiwch gyfarpar diogelu personol bob amser – megis het galed, siaced lachar, esgidiau diogelwch, menig a chyfarpar i amddiffyn eich llygaid – a chofiwch ddarparu cyfarpar ar gyfer y bobl rydych wedi’u gwahodd ar y safle. Gofalwch bod pawb yn cydymffurfio gyda’r canllawiau a mesurau diogelwch a’u bod yn ymwybodol ohonyn nhw. Efallai y bydd yn rhaid cyflawni goruchwyliaeth lem neu ofyn i bobl am ddarllen ac arwyddo ffurflen ddiogelwch os yn briodol.
Asesiad risg sylfaenol
Dylai’r asesiad hwn ddwyn i ystyriaeth a mynd i’r afael ag unrhyw risgiau gwirioneddol ac arfaethedig y gellir eu nodi. Os yw eich aelodau neu wirfoddolwyr yn nodi rhai newydd (waeth pa mor fach) dylid eu hychwanegu a’u cynnwys, i sicrhau polisi iechyd a diogelwch gweithredol sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar gyfer eich mudiad.
Mae pennu’r risgiau ac asesu’r lefel o risg yn rhywbeth y gall eich sefydliad ei hun fynd i’r afael ag ef. Fodd bynnag, os oes gennych chi amheuon, cofiwch ofyn am gyngor proffesiynol bob amser. Cofiwch asesu gweithgareddau eich gwirfoddolwyr a’ch gweithwyr, yn enwedig os ydych chi’n gofyn iddyn nhw am gyflawni ymgynghoriadau neu weithgareddau eraill y tu hwnt i’r prif safle neu eiddo.
Gall enghraifft nodweddiadol o’r broses o asesu risg sylfaenol ymdrin â’r canlynol:
- archwilio arferion ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch unigolion
- gwneud trefniadau ar gyfer rhoi mesurau iechyd a diogelwch, sydd wedi’u nodi fel rhai angenrheidiol yn ôl yr asesiad, ar waith
- darparu datrysiadau neu wybodaeth a threfniadau i fynd i’r afael â’r risg.
| Arfer
|
Risg sydd wedi’i nodi
|
Posibilrwydd y bydd yn digwydd: a yw’r tebygolrwydd o hyn yn digwydd yn uchel, canolig neu isel?
|
Lliniaru (mesur / gwybodaeth iechyd a diogelwch)
|
| e.e. Ymweliadau safle rheolaidd gan wirfoddolwyr i bennu cyflwr adeilad a gwirio diogelwch. | e.e. Perygl o waith maen yn syrthio a rwbel ar y llawr.
|
e.e. Risg canolig
|
e.e. Peidiwch â mynd i mewn i’r safle heb oruchwyliaeth a dim ond ar ôl ymgynghori gyda’r Swyddog Diogelwch.
Dylid gwisgo het diogelwch ac esgidiau diogelwch bob amser. Cofiwch gymryd gofal pan fyddwch yn troedio arwynebau anwastad. Ni chaniateir mynediad cyhoeddus. |
Os ydych chi’n nodi unrhyw eitemau risg canolig neu risg uchel, gofynnwch am gyngor ar unwaith. Cofiwch, ar gyfer unrhyw risg sydd wedi’i nodi, sicrhau eich bod yn caffael gwybodaeth ac yn gweithredu mesurau a rhagofalon effeithiol bob amser.
Gofynnwch am gyngor proffesiynol os oes gennych chi bryderon ynghylch unrhyw agweddau o ran bodloni cyfrifoldebau iechyd a diogelwch.
Gwelwch hefyd ganllawiau ar Reoli Risgiau mewn prosiectau adeiladau hanesyddol.
